|
|
| Site map Accessibility A A A Text Only | |
Print this page
'Into' Gwirfoddoli yng Nghymru
Mae Gwirfoddoli hefyd yn ddull da o ddysgu mwy am bynciau yr hoffech eu hastudio ar lefel addysg bellach neu addysg uwch neu ddysgu yn y gweithle i’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae Sgil (Skill) wedi paratoi gwybodaeth ar wirfoddoli i’ch helpu i ddewis y math o brofiad yr ydych yn chwilio amdano neu’r hyn y gallech ei elwa o’r profiad. Porwch yma i gael syniad am wirfoddoli. Mae ystod ehangach o gyfleoedd ar gael, a byddai angen, gan ddibynnu ar y swydd, peth profiad blaenorol er na fyddai angen hynny ar swyddi eraill. Gwaith di-dâl yw gwirfoddoli ac ni ddylai effeithio ar unrhyw fudd-dal yr ydych yn ei dderbyn, er y byddai rhaid i chi hysbysu eich Swyddfa Byd Gwaith leol. Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli a gwirfoddoli a budd-daliadau,
cliciwch yma:
[i’r top]
Prosiect Llysgennad Sgil Cymru 2011 Hoffech chi fod yn Llysgennad Sgil Cymru? Hoffech chi siarad â phobl ifanc anabl am eich profiad a’u helpu i gyflawni eu llawn botensial a chyrraedd eu nodau? Dyfarnwyd arian i Sgil Cymru gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Prosiect Llysgennad Sgil Cymru. Byddwch chi’n darparu hyfforddiant a thalu treuliau a byddwch yn dod yn rhan o dîm o wirfoddolwyr sy’n gweithio i helpu pobl ifanc anabl i gyflawni’r hyn y maen nhw am ei gyflawni ac i oresgyn rhwystrau, yn union fel gwnaethoch chi. Am wybod rhagor? Cysylltwch â Sgil Cymru heddiw. Edrychwn ymlaen i gwrdd â chi.
Cyfleoedd Eraill Mae Sgil Cymru yn cydweithio gyda sefydliadau eraill i wella a hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli. Mae Able Radio yn cynnig ystod o gyfleoedd i wirfoddoli yn seilieidig yn y stiwdio neu’r cartref. Mae Able Radio yn orsaf ar lein fyw, yn darlledu i wrandawyr sydd â diddordeb mewn anabledd neu gyflwr meddygol cyfyngol.Gallwch wrando ar Able unrhywbryd ar www.ableradio.com Cliciwch yma am ddisgrifiad swydd gwirfoddoli a manylion cysylltu ar gyfer Cydlynydd Fforwm –yn seiliedig yn y cartref ( Forum Co-ordinator - home based.) Cliciwch yma am ddisgrifiad swydd gwirfoddoli a manylion cysylltu ar gyfer Peiriannydd Radio, Gweithredydd Stiwdio, Cynhyrchydd, Cyflwynydd, Cynorthwyydd Radio, Cydlynydd Cerdd a Derbynnydd (Radio Engineer, Studio Technical Operator, Producer, Presenter, Radio Assistant, Music Co-ordinator and Receptionist).
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Porth Talbot
Gwasanaeth Cymunedol Gwirfoddol |
|
|
|
|
| |Home | UK Pages | Information | Policy | News | Institutions | About us | Wales English | Web Accessibility | Feedback | | |